Skip to main content

This job has expired

Strategic Director: Finance & Resources and Section 151 Officer

Employer
Conwy County Borough Council
Location
Conwy: North Wales
Salary
£97,682-£103,632
Closing date
22 Jan 2021

View more

Cyfeirnod y Swydd:

Wedi’i leoli yng nghanol gogledd Cymru ar gyrion Parc Cenedlaethol trawiadol Eryri, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awdurdod lleol sydd wedi ennill gwobrau ac yn gyflogwr rhagorol sy’n byw yn ôl ei weledigaeth o fod yn “Gyngor Blaengar sy’n Creu Cyfleoedd”.

Rydym yn gallu gwneud hynny oherwydd bod gennym reolaeth ariannol gref, trefniadau llywodraethu a gwasanaethau cynnal effeithiol iawn ac uchel eu parch, ac mae’r Cyfarwyddwr Strategol presennol wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith i ddatblygu a chyflenwi hynny.

Mae’r swydd hon yn dod yn wag oherwydd bod deiliad presennol y swydd yn ymddeol felly mae cyfle wedi’i greu i rywun barhau â’n siwrnai, moderneiddio’r ffordd rydym yn gweithio, gan ymroi i ragoriaeth.

Mae hon yn rôl strategol allweddol gydag amrywiaeth ddiddorol a heriol o ddyletswyddau gan gynnwys cyfrifoldebau uwch arweinyddiaeth ar draws y Cyngor yn ogystal â gweithredu fel ein gweithiwr cyllid proffesiynol arweiniol a Swyddog Adran 151.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Prif Weithredwr gyda dyletswyddau arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y Cyngor, bod yn rhan allweddol o’n rheolaeth gorfforaethol a strategol a bydd yn chwarae rhan ganolog yn yr arena wleidyddol gymhleth, gan arwain a llunio ein gweithgareddau a’n hymddygiad a dylanwadu arnynt er mwyn ceisio cefnogaeth ddemocrataidd a chefnogaeth swyddogion a budd-ddeiliad ar gyfer mentrau allweddol a darparu canlyniadau cadarnhaol.

Yn yr un modd â’r mwyafrif o sefydliadau’r sector cyhoeddus, mae’r Cyngor wedi’i effeithio’n sylweddol gan ostyngiad o ran cyllid y llywodraeth, ac mae hyn wedi’i ddwysáu ymhellach gan Covid19. Mae’n rhaid i ddeilydd y swydd hon fwynhau her, oherwydd bydd angen arwain y sefydliad ar lwybr ariannol gynaliadwy, a darparu cyllideb gytbwys yn erbyn ansicrwydd cyllid llywodraeth leol.

Bydd deiliad y swydd yn arwain amrywiaeth o wasanaethau cynnal, gan gynnwys Cyllid, Adnoddau Dynol a TG. Byddant yn gweithio’n agos gyda chynghorwyr a’r uwch dîm rheoli i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer cyllideb y Cyngor, ac yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr i arwain gwaith hyrwyddo a darparu rheolaeth ariannol dda gan y sefydliad cyfan fel bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu bob amser a’i ddefnyddio’n briodol, yn economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol. Bydd ymgeiswyr yn dangos ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus ag “Egwyddorion Nolan”.

Bydd gennych addysg at lefel gradd a byddwch yn aelod o CIPFA neu CCAB neu gyfwerth a bydd gennych dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol. Rhaid i chi feddu ar ddealltwriaeth fanwl o gyllid llywodraeth leol, gyda phrofiad sylweddol ar lefel uwch reolwyr mewn sefydliad amlddisgyblaethol mawr, gyda llwyddiant blaenorol o ran cyflawniad cyson a darparu canlyniadau strategol. Byddwch yn gallu dangos angerdd gwirioneddol a chysylltiad â’n gwerthoedd, a sgiliau technegol a chyfathrebu rhagorol.

Er mwyn sicrhau llwyddiant yn y rôl hon, mae’n hanfodol bod gennych sgiliau rhagorol o ran rheoli perthnasoedd, gyda’r gallu i gydweithio ag aelodau gyda lefel uchel o ymwybyddiaeth wleidyddol a chadernid, creadigrwydd a sgiliau wedi’u datblygu’n dda o ran datrys problemau, trafod a gwneud penderfyniadau, a’r gallu i ganfod datrysiadau ymarferol ac arloesol.

Mae cynnal perthnasoedd gweithio rhagorol gyda budd-ddeiliaid allanol allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’n rheoleiddwyr allanol yn elfen bwysig iawn o’r rôl hon, felly mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos profiad o ddatblygu a chynnal gweithio partneriaeth effeithiol gydag amrywiaeth eang o gyrff mewnol ac allanol.

Er y byddai cefndir o weithio mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn fantais benodol, nid yw’n angenrheidiol, gan fod gennym yr un diddordeb mewn penodi rhywun â’r nodweddion a grybwyllir uchod, sydd â dealltwriaeth o’r cyd-destun gwleidyddol a gyllidol Cymreig ac a fydd yn ffitio'n dda yn ein tîm.

Oherwydd gofynion y swydd hon, mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.

Rydym yn dîm profiadol, deinamig a chefnogol ac mae gennym agenda cyffrous ac uchelgeisiol; dewch i ymuno â ni i fwynhau chwarae rôl allweddol i gyflawni llwyddiant i'n trigolion a'n hymwelwyr yng Nghonwy.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Iwan Davies / Prif Weithredwr / 01492 576015 ac Andrew Kirkham / Cyfarwyddwr Strategol Cyllid ac Adnoddau / 01492 576170]

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am y swydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.conwy.gov.uk/cyfarwyddwrarian

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned.  Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.  Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Gall pobl anabl wneud cais ar wahanol ffurfiau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Job reference:

Situated at the heart of North Wales on the edge of the stunning Snowdonia National Park, Conwy County Borough Council is an award winning local authority and excellent employer which lives by its vision of being a “Progressive Council, Creating Opportunities”.

We are able to do so because we have strong fiscal management, respected governance arrangements and highly effective support services, which the current Strategic Director has been key to developing and delivering.

The role is available through the current post holder’s retirement and therefore an opportunity has been created for someone to continue our journey, modernising the way we work, and striving for excellence.

This is a key strategic role with a diverse, interesting and challenging range of duties incorporating Council wide senior leadership responsibilities as well as being our lead finance professional and Section 151 Officer.

The postholder will actively support the Chief Executive in the overall leadership and management of the Council, being a key part of our corporate and strategic management and will play a pivotal role in the complex political arena, influencing, guiding and shaping our activities and behaviours in order to seek democratic as well as officer and stakeholder support for key initiatives and to deliver positive outcomes.

In keeping with most organisations in the public sector the Council has been significantly impacted by reduced government funding and this has been further exacerbated by Covid19. Guiding the organisation on a financially sustainable path and delivering a balanced budget against the uncertainty of local government funding is not a job for those who do not relish a challenge.

The post holder will lead a range of support services, including Finance, HR, and IT. They will work closely with councillors and the senior management team to set the strategic direction for the Council’s budget and work collectively with colleagues to lead the promotion and delivery by the whole organisation of good financial management so that public money is safeguarded at all times and used appropriately, economically, efficiently and effectively. Candidates will demonstrates a strong commitment to public service and the “Nolan Principles”.

You will be educated to degree level and be a member of CIPFA or CCAB or equivalent with evidence of relevant professional development. You must have an in-depth understanding of local government finance, with substantial experience at senior management level within a large multi-disciplined organisation with a proven track record of consistent achievement and the delivery of strategic outcomes. You will be able to show a real passion and affinity with our values coupled with excellent technical and communication skills.

Excellent relationship management skills, with the ability to work together with members, with a high level of political awareness coupled with resilience, creativity and highly developed problem solving, negotiation and decision making skills with the ability to produce practical and innovative solutions are pre-requisites for success in this role. Maintaining excellent working relationships with key external stakeholders including Welsh Government and our external regulators is a really important element of this role so applicants must demonstrate experience of developing and maintaining effective partnership working with a wide range of internal and external bodies.

Whilst a background with local government in Wales would be a distinct advantage, it is not a prerequisite, as we are equally interested in appointing someone with the attributes mentioned above, who has an understanding of the Welsh political and financial context and who will fit well into our team.

Due to the requirements of this post the ability to speak Welsh is desirable.

We are an experienced, dynamic and supportive team with an exciting and ambitious agenda; come and join us to enjoy playing a key role achieving success for our residents and visitors in Conwy.

For informal discussion regarding the post: Iwan Davies / Chief Executive / 01492 576015 and Andrew Kirkham / Strategic Director of Finance & Resources/ 01492 576170]

For further information and to apply for the post please click the following link: https://www.conwy.gov.uk/financedirector                                            

Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.

Conwy welcomes applicants from all sections of the community. All disabled applicants who meet the essential job requirements will be guaranteed an interview. The Council will provide appropriate additional work facilities for disabled applicants. There is an option for disabled people to apply on different formats. Please contact the HR Team on 01492 576129 for further advice.

Conwy is committed to its Welsh Language Standards. We welcome applications in the Welsh Language and application forms received in the Welsh Language will not be treated less favourably than an application form submitted in English.

Candidates must complete our application form to be considered. CVs by themselves will not be accepted. If you have not received an interview invitation within three weeks of the closing date, you must assume that you have not been short listed for interview.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert